Lleoliad

Ble a sut i ddod o hyd i ni

Ffordd Fenter Sirhywi | Trafnidiaeth Gyhoeddus

Gall lleoliad Bwrdeistref Sirol Caerffili rhwng Caerdydd, prifddinas Cymru i’r de, a Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog i’r gogledd, ddarparu lleoliad amgen gwell ar gyfer eich busnes, gan ddarparu’r holl hanfodion ar gyfer ansawdd bywyd rhagorol.

Map of the major roads network

Lleolir Parc Busnes Oakdale ar gyrion ochr ddwyreiniol Bwrdeistref Sirol Caerffili, tua 11 milltir i’r gogledd o gyffordd 28 yr M4. Bydd gan Barc Busnes Oakdale ei ffordd fynediad ei hun, a fydd yn ei gysylltu â’r A472 ym Mhontllan-fraith, gan sicrhau y bydd deiliaid y dyfodol o fewn 5 munud i ganol tref Coed Duon. Bwriedir cwblhau’r ffordd hon, Ffordd Fenter Sirhywi a’r ddau gyswllt allweddol ar draws y cwm, erbyn gwanwyn 2006. .

Mae’r safle 170 erw gyferbyn ag ystâd ddiwydiannol hynod lwyddiannus Pen-y-fan, sy’n gartref i gwmnïau megis Unisem Europe Ltd ac Abingdon Flooring.

Map of road infrastructure of South East Wales

Mae cylchfan yn darparu mynediad uniongyrchol o Parkway, sef y brif ffordd drwy Ystâd Ddiwydiannol Pen-y-fan, ac mae hyn yn rhoi mynediad uniongyrchol i’r ddau lwyfandir mwyaf, sef llwyfandiroedd 1 a 2. Ariannwyd seilwaith y safle drwy Her Cyfalaf Cymru, gyda chylchfan yn darparu mynediad uniongyrchol i Lwyfandir 1 a 2. Mae ffordd yn rhedeg trwy’r safle cyfan sy’n darparu mynediad i’r llwyfandiroedd is.

Mae Ffordd Gyswllt Pentref Oakdale yn cysylltu’r Parc Busnes â datblygiad preswyl o’r radd flaenaf gan Redrow ar gyrion pentref Oakdale. Gwnaethpwyd gwelliannau i’r B4251 ar Fryn Kendon sy’n arwain i Ystâd Ddiwydiannol Pen-y-fan. Caiff mynediad hir dymor ei ddarparu yn sgîl adeiladu Ffordd Fenter Sirhywi.


Ffordd Fenter Sirhywi

Bydd mynediad i Barc Busnes Oakdale yn cael ei wella yn sgîl adeiladu Ffordd Fenter Sirhywi. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi cymeradwyo credydau’r Fenter Cyllid Preifat (M.C.P) i ddylunio, adeiladu, ariannu a gweithredu Ffordd Fenter Sirhywi.

Map of Sirhowy Enterprise Way

Bydd y ffordd arfaethedig hon o ansawdd uchel yn cryfhau rhwydwaith strategol y priffyrdd yng Nghwm Sirhywi, gyda mynediad i’r parc busnes ar y pen gorllewinol. Bydd tua 4.3km o ffordd sengl yn cynnwys dau gyswllt allweddol ar draws y cwm. Amcangyfrif y gost cyfalaf yw £38 miliwn.

Dewiswyd Sirhowy Enterprise Way Ltd, partneriaeth rhwng Laing Investments a Costain, i ddylunio, adeiladu, ariannu a gweithredu Ffordd Fenter Sirhywi am 30 mlynedd.

Mae’r gwaith o adeiladu Ffordd Fenter Sirhywi yn allweddol i ddatblygiad llawn Parc Busnes Sirhywi, a dechreuodd gwaith ar y safle ym mis Ionawr 2004. Mae’r Cyngor wedi gwarantu y bydd yr effeithiau amgylcheddol mor fach â phosibl.

Bydd y cynllun, sydd wrth galon y fwrdeistref sirol, yn gwella rhwydwaith strategol priffyrdd yr A4048/A472 i’r gogledd o Goed Duon ac i’r dwyrain o Bontllan-fraith, yn ogystal â darparu ffordd fynediad i Barc Busnes Oakdale.


Trafnidiaeth Gyhoeddus

Gwasanaeth Bws

Mae gwasanaethau bws amrywiol yn rhedeg naill ai i Goed Duon neu Drecelyn o Gasnewydd, Brynmawr, Caerdydd, Cwmbrân, Glyn Ebwy, Pont-y-pwl, Pontypridd a Thredegar.

Mae Gwasanaeth Bws 5, a weithredir gan Islwyn Borough Transport, yn rhedeg bob awr rhwng Coed Duon, Oakdale a Threcelyn, gyda bysiau ychwanegol yn rhedeg yn ystod y dydd rhwng Coed Duon, Oakdale a Chroespenmaen, o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Mae’r brif arosfan bysiau yn Heol Pandy, Croespenmaen, o fewn 5 munud ar droed i’r Parc Busnes. Yn ystod oriau brig, mae bysiau yn rhedeg i’r Parc Busnes drwy Parkway i gyffordd Rush Way ar Ystâd Ddiwydiannol Pen-y-fan.

Gwasanaeth Trên

Mae gwasanaethau trên rheolaidd yn rhedeg o Gaerdydd i Orsaf Ystrad Mynach. Mae Gwasanaeth Bws RL5 yn darparu cysylltiad rhwng Gorsaf Ystrad Mynach a Choed Duon. Cynlluniwyd y gwasanaeth i gwrdd â threnau ar amseroedd cyfleus, a gellir prynu un tocyn i deithio ar y trên a’r bws.

Bydd ailagoriad arfaethedig llinell Cwm Ebwy, gyda gorsafoedd newydd yng Nglyn Ebwy, Llanhiledd, Trecelyn, Rhisga a Thŷ-du, yn darparu system integredig gyda gwasanaethau bws i Barc Busnes Oakdale, a chynlluniau Parcio a Theithio.

Dechreuodd y gwaith adeiladu yn ystod 2006 ac agorodd y rheilffordd 18 milltir i deithwyr ym mis Chwefror 2008. Mae gwasanaeth bob awr yn gweithredu o Lyn Ebwy i Gaerdydd.

Map of Railway Networks

Cafodd Rheilffordd Cwm Ebwy, gwerth £30 miliwn, ei hariannu drwy Raglen Amcan 1 yr Undeb Ewropeaidd gwerth £7.5 miliwn a £7 miliwn o Gronfa Adfywio Gwaith Dur Corus, gyda gweddill yr arian yn cael ei ddarparu gan Grant Trafnidiaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.