Mae rhaglen ddatblygu uchelgeisiol wedi cael ei chynnal ar yr ail lwyfandir datblygu mwyaf, Llwyfandir 2, i ddarparu amrywiaeth eang o adeiladau busnes at ddefnydd diwydiannol ysgafn. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi gweithio mewn partneriaeth ar gam cyntaf y datblygiad, gan adeiladu 4 uned fel rhan o Gytundeb Menter ar y Cyd. Mae camau datblygu pellach gan y Cyngor a Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi cael mynediad at gyllid Amcan 1 y Rhaglen Ariannu Ewropeaidd i ddarparu cynnig eiddo sydd heb ei ail yn yr ardal.
Mae’r unedau’n amrywio o 5,000 troedfedd sgwâr (465 metr sgwâr) hyd at 50,000 troedfedd sgwâr (4,645 metr sgwâr). Mae pob uned fusnes yn cynnwys llety swyddfa, mynediad at wasanaethau a mynediad at drydan tri cham. Mae lle ar gael yn rhai o’r unedau mwy ar gyfer ehangu yn y dyfodol.
Er mwyn lleihau’r effeithiau amgylcheddol, caiff pob datblygiad gan y Cyngor yn y dyfodol ei gynllunio i gyflawni statws rhagoriaeth BREEAM a chaiff datblygwyr eraill eu hannog i fabwysiadu’r un safonau.
Am ragor o wybodaeth ynglŷn ag adeiladau neu i ofyn am lawlyfr, cysylltwch â ni.
Gweithiodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ac Awdurdod Datblygu Cymru mewn partneriaeth ar y cam cyntaf o’r gwaith datblygu ar lwyfandir 2. Adeiladwyd y 4 uned mewn safleoedd blaenllaw wrth y fynedfa i Lwyfandir 2 – Bryn Brithdir.
Mae’r pedair uned gweithgynhyrchu, dwy yn 10,000 troedfedd sgwâr (929 metr sgwâr) a dwy yn 20,000 troedfedd sgwâr (1,858 metr sgwâr) wedi eu gosod fel adeiladau lled-wahanedig sy’n cynnwys 15% o arwynebedd swyddfa a lle i ehangu 100% ar y safle.
Mae pencadlys General Dynamics United Kingdom Ltd wedi ei leoli yn Unedau 3 a 4. Mae’r ddwy uned 20,000 troedfedd sgwâr (1,858 metr sgwâr) wedi eu cyfuno a’u haddasu i’w defnyddio fel swyddfa ar gyfer uwch reolwyr a swyddogaethau cymorth megis TG a chyllid. Mae’r timau rheoli rhaglenni ar gyfer BOWMAN a’r rhaglenni digidoli tir hefyd wedi eu lleoli yn yr adeilad.
Mae Oakdale Court wedi’i leoli mewn safle blaenllaw ar Lwyfandir 2 ym mhen dwyreiniol y parc busnes. Mae mynediad i Oakdale Court trwy Bryn Brithdir, sydd â mynediad uniongyrchol i’r gylchfan wrth fynedfa’r parc busnes.
Mae gan Oakdale Court amrywiaeth da o unedau busnes sydd wedi’u hadeiladu mewn 2 gam datblygu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a Llywodraeth Cynulliad Cymru.
Y cam datblygu diweddaraf yw’r unedau busnes bach wedi’u hariannu gan Amcan 1 y Rhaglen Ariannu Ewropeaidd sydd wedi’u lleoli ar ochr orllewinol y llwyfandir. Mae’r 6 uned fusnes hyn yn cynnwys swyddfeydd gyda mynedfa ar wahân ac iard wasanaeth gaeedig i’r cefn. A hwythau dim ond 5,000 troedfedd sgwâr (465 metr sgwâr), maen nhw’n ddelfrydol ar gyfer busnes bach sy’n tyfu ac maen nhw wedi’u cynllunio ar gyfer defnydd diwydiannol ysgafn.
Yn wahanol i’r unedau busnesau bach, mae modd meddiannu eiddo Llywodraeth Cynulliad Cymru fel 2 uned neu 1 uned sengl 50,000 troedfedd sgwâr (4,645 metr sgwâr). Mae lle hefyd o fewn y plot i ymestyn yr uned i 100,000 troedfedd sgwâr (9,290 metr sgwâr).
Mae’r unedau busnes i’w gosod ar brydles atgyweirio llawn ac yswirio blynyddol.